Mae awtistiaeth yn effeithio ar bawb mewn gwahanol ffyrdd, felly mae’n anodd cyffredinoli profiadau pobl. Mae rhai pobl ag awtistiaeth yn byw bywydau cymharol annibynnol, ond bydd angen cymorth arbenigol ar eraill am oes.
Mae’r adran hon, sy’n cynnwys toreth o gyngor ymarferol, wedi’i hysgrifennu’n bennaf ar gyfer rhieni, ond mae’n cynnwys rhywfaint o wybodaeth wedi’i hysgrifennu ar gyfer pobl ag awtistiaeth a syndrom Asperger.