Ffeithiau ac ystadegau am awtistiaeth

Mae’r term 'awtistiaeth' yn cael ei ddefnyddio yma i ddisgrifio pob diagnosis ar y sbectrwm awtistig gan gynnwys awtistiaeth glasurol, syndrom Asperger ac awtistiaeth gweithrediad uchel.

  • Mae awtistiaeth yn gyflwr difrifol, am oes sy’n analluogi. Heb y cymorth cywir gall gael effaith ddofn - dinistriol ar brydiau - ar unigolion a theuluoedd1.
  • Mae awtistiaeth yn fwy cyffredin nag y mae pobl yn sylweddoli. Mae gan dros hanner miliwn o bobl yn y DU awtistiaeth - sef tua 1 o bob 1002. Os byddwch yn cynnwys eu teuluoedd, mae awtistiaeth yn cyffwrdd â bywydau dros ddwy filiwn o bobl bob dydd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Faint o bobl sydd ag anhwylderau'r sbectrwm awtistig?
  • Nid yw awtistiaeth yn effeithio ar blant yn unig. Mae plant ag awtistiaeth yn tyfu i fod yn oedolion ag awtistiaeth3.
  • Mae awtistiaeth yn anabledd cudd – ni allwch ddweud bob amser os yw’n effeithio ar rywun4.
  • Er na ellir gwella awtistiaeth, gall y cymorth cywir ar yr adeg gywir wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl5.
  • Mae dros 40% o blant ag awtistiaeth wedi cael eu bwlïo yn yr ysgol6.
  • Nid yw dros 50% o blant ag awtistiaeth yn y math o ysgol y mae eu rhieni’n credu fyddai orau iddynt7.
  • Mae un o bob pump o blant ag awtistiaeth wedi cael ei wahardd o’r ysgol, mwy nag unwaith i lawer ohonynt8.
  • Nid oes gan ddwy ran o dair o oedolion ag awtistiaeth yn Lloegr ddigon o gymorth i ddiwallu eu hanghenion9.
  • Mae o leiaf un o bob tri o oedolion ag awtistiaeth yn cael anawsterau iechyd meddwl difrifol oherwydd diffyg cymorth10.
  • Dim ond 15% o oedolion ag awtistiaeth yn y DU sydd mewn cyflogaeth llawn amser â thâl11.
  • Mae 51% o oedolion ag awtistiaeth yn y DU wedi treulio amser heb swydd na budd-daliadau, mae 10% ohonynt wedi bod yn y sefyllfa hon am ddeng mlynedd neu fwy12
  • Mae 61% o’r rhai sy’n ddi-waith yn dweud yr hoffent weithio13
  • Mae 79% o’r rhai sy’n cael Budd-dal Analluogrwydd yn dweud yr hoffent weithio14

Cyfeiriadau

1 Rosenblatt, M (2008). I Exist: the message from adults with autism in England. Llundain: Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, tud. 5-7
2 Baird, G et al (2006). Prevalence of disorders of the autism spectrum in a population cohort of children in South Thames: the Special Needs and Autism Project (SNAP). The Lancet, 368 (9531), tud. 210-215
3 Rosenblatt, M op.cit. tud. 37
4 tud. 37
5 tud. 37
6 Batten, A et al (2006). Autism and education: the reality for families today. Llundain: Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, tud. 3
7 tud. 3
8 tud. 3
9 Rosenblatt, M op.cit. tud. 3
10 tud. 3
11 Redman, S et al (2009). Don't Write Me Off: Make the system fair for people with autism. Llundain: Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, tud. 8
12 tud. 6
13 tud. 32
14 tud. 6